

Cylchgrawn dwyieithog sbon ar y diwydiant cerddoriaeth gyda ffocws ar newyddion, proffiliau a chyfleoedd yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg. Mae Crwth wedi’i ddylunio a’i gyflwyno gan bobl ifanc sy’n dod i’r amlwg o fewn y diwydiant, trwy daflu golau dros ddiwydiant cerddoriaeth, diwylliant a chelf yn Gymru fodern. Bydd rhifyn 1 o Crwth yn cael ei lansio yn gynnar yn 2022.

Arweinydd Prosiect
Alexandra Jones
Wedi’i magu yng nghymoedd De Cymru ac sydd bellach wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, mae Alexandra Jones yn llawrydd yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg. Yn ogystal â gweithio fel Swyddog Prosiect gyda Beacons Cymru, mae hi'n gweithio gyda sefydliadau fel y rhaglen datblygu artistiaid Forté Project a hefyd yn hyrwyddo cerddoriaeth fyw Gymreig yn y lleoliad cerddoriaeth a theatr, Porter's Caerdydd. Ei chenhadaeth gyda Chylchgrawn Crwth yw taflu goleuni ar y diwydiant cerddoriaeth, diwylliant a chelf yn y Gymru fodern. Ar gael yn ddwyieithog, mae Crwth yn cynnig y cyfle i bobl ifanc Cymru rannu eu straeon ac addysgu ei gilydd ar sut i lywio gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth.
Cysylltwch: alexandra@beacons.cymru