ADDYSG & YMGYNHORAETH
'Ein gweledigaeth yw rhoi mynediad i bob person ifanc (16-25 oed) ledled Cymru at y wybodaeth, y cyfleoedd, y rhwydweithiau a’r sgiliau sydd eu hangen ar y diwydiant i greu gyrfaoedd cynaliadwy a modelau busnes newydd yn y diwydiant cerddoriaeth Gymreig.'
Fel rhan o’n gwaith allgymorth, rydym yn awyddus i ffurfio partneriaethau newydd gyda sefydliadau a phartneriaid addysgol o bob rhan o Gymru a dod o hyd i ffyrdd o helpu pobl ifanc.
Mae ein harbenigedd a’n harweiniad wedi galluogi pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd newydd, datblygu sgiliau hanfodol ac ehangu eu rhwydweithiau o fewn sector diwydiant cerddoriaeth Cymru. Os hoffech chi a/neu eich sefydliad drafod cyfleoedd i gydweithio, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Yn 2022, wnaeth Beacons Cymru partnerio efo’r cwrs Technoleg Cerddoriaeth Coleg Y Cymoedd i ddarparu cyfres o ddosbarthiadau ar y diwydiant cerddoriaeth dros gyfnod o dair fis ar gyfer ei ddysgwyr ifanc Lefel 4.
​
​Trafodwyd y pynciau canlynol:
-
Building an image and identity
-
Allbynnau creadigol ac adeiladu llwyfan
-
Cyfansoddi caneuon a chwilio am ysbrydoliaeth
-
Ymwybyddiaeth o'r farchnad
-
Meithrin perthynas â chleientiaid/cefnogwyr
-
Ymwybyddiaeth o'r diwydiant cerddoriaeth
-
Creu cyfleoedd a sut i gael eich talu
-
Dyfeisio strategaethau marchnata a gweithredu ymgyrchoedd marchnata
​
​Fe wnaeth ein dosbarthiadau diwydiant helpu dysgwyr i ddatblygu eu potensial i weithio mewn diwydiant ac amlygu cyfleoedd a oedd yn ymddangos yn anghyraeddadwy yn flaenorol.
Yn hwyr yn 2022, gwahoddwyd Beacons Cymru i gyflwyno cynnig ar sut y gellid cyflwyno gwybodaeth diwydiant cerddoriaeth, rhwydweithio a dysgu seiliedig ar sgiliau i ranbarth Conwy yng Ngogledd Cymru.
​
Gan weithio ochr yn ochr â thîm Creu Conwy, Strategaeth Ddiwylliannol newydd ar gyfer Sir, fel rhan o raglen Winter Sounds, llwyddodd Beacons Cymru i ddod â chyfleoedd newydd drwy ei fformat 'Basecamp' dros gyfnod o ddau ddiwrnod.
​
Ymgysylltodd Beacons Cymru ag amrywiaeth o sefydliadau lleol, partneriaid addysg a gweithwyr proffesiynol y diwydiant, gan gynnwys Tape Music & film, i gynnal cyfres o sgyrsiau â ffocws rhanbarthol, gweithdai ac arddangosiadau cerddoriaeth fyw.
TYSTEBAU
“Mae'r cwrs lefel pedwar yr ydym yn ei gyflwyno yn gwrs datblygu artistiaid, felly mae'n pontio'r bwlch rhwng addysg a diwydiant. Felly mae cael pobl fel Richard & Spike a staff Beacons i ddod mewn, yn werthfawr iawn i drosglwyddo’r profiad diwydiant hwnnw i’r myfyrwyr.”
​
​Scott Howells, Darlithydd Technoloeg - Campws Diwydiannau Creadigol, Coleg Y Cymoedd, Rhondda Cynon Taf.