
SWYDDI, CHYFLEOEDD & DIGWYDDIADAU
Eisiau ymuno â thîm y Bannau? Dyma beth sydd gennym i'w gynnig
DIGWYDDIADAU

CYN CWSG
+ TAI HAF HEB DRIGOLYN
15.3.25
Clwb Ifor Bach, Caerdydd
£4/5adv | 18+
TICKETS HERE
CHYFLEOEDD

CYFLE I YMUNO Â’N BWRDD
Ydych chi'n angerddol am helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial trwy gerddoriaeth?
Byddwch yn rhan o dîm cyffrous a gweledigaethol fel Cyfarwyddwr Beacons Cymru, gan dywys un o brif sefydliadau diwydiant cerddoriaeth Cymru i mewn i’w bennod nesaf gyffrous.
Fel Cyfarwyddwr, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol Beacons Cymru. Bydd eich arweiniad a'ch cefnogaeth yn ein helpu i greu cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc, gan ddefnyddio cerddoriaeth fel arf ar gyfer twf, cysylltiad, a newid cadarnhaol. Gyda’n gilydd, gallwn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a chryfhau ein cred yng ngallu cerddoriaeth i drawsnewid bywydau a chymunedau.
Rydym yn croesawu’n gynnes unigolion sydd ag arbenigedd mewn amryw o feysydd gwahanol, ond rydym yn awyddus i ffeindio cyfarwyddwyr gydag arbenigedd yn y meysydd canlynol:
Codi Arian a Chynhyrchu Incwm: gwybodaeth/profiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau codi arian llwyddiannus, cysylltu mentrau creadigol â ffynonellau cyllid, sicrhau cymorth ariannol i sefydliadau celfyddydol, prosiectau ac unigolion
AD a Rheoli Personél: gwybodaeth/profiad o reoli a chefnogi gwahanol agweddau ar gysylltiadau gweithwyr, recriwtio a pholisïau gweithle o fewn sefydliad.
Mae hwn yn gyfle gwych i’r person iawn weithio’n agos gyda’r sefydliad unigryw hwn a datblygu model busnes newydd cynaliadwy ac arloesol ar gyfer y dyfodol. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n rhannu brwdfrydedd a chefnogaeth i nodau Beacons Cymru, cred yng ngrym cerddoriaeth i drawsnewid a chyfoethogi bywydau pobl, ac ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac ehangu mynediad.
Mae Beacons Cymru wedi ymrwymo i Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac mae’n hanfodol bod y Bwrdd yn adlewyrchu amrywiaeth ein cenedl ac yn cwmpasu ystod eang o safbwyntiau a phrofiadau. Felly, rydym yn awyddus i dderbyn datganiadau o ddiddordeb gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli neu sydd wedi wynebu cael eu hallgáu o’r diwydiant celfyddydau neu gerddoriaeth.
Sut i Wneud Cais
E-bostiwch eich CV a datganiad o ddiddordeb un dudalen A4 i: hello@beacons.cymru